Make Every Journey A Good One - Stick To The Travel Code

Welsh Assembly Government - Young Wales

Teachers

Os nad yw'ch plentyn yn dilyn y Cod Teithio gall yr Awdurdod Lleol wrthod yr hawl i gael cludiant am ddim. (Edrychwch ar Ganllawiau Statudol y Cod Ymddygiad wrth Deithio am wybodaeth fanwl).

Mae'r Cod Teithio'n cynnwys cwis rhyngweithiol gwych y gallwch ei chwarae trwy fynd ar y wefan neu Facebook.

Ceisiwch annog eich disgyblion i chwarae. Mae'n hwyl ac am ddim, a bydd yn eu helpu i ddysgu a deall y Cod Teithio.

Lesson Plans

Mae gennym gynlluniau gwersi gwych i chi eu defnyddio, ar gyfer CA1, CA2, CA3 a CA4.

Mae'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn gwybod fod y Cod Teithio yn ymwneud â derbyn cyfrifoldeb a gofalu am eu diogelwch hwy eu hunain a phobl eraill yn ogystal â dysgu am eu hawliau.

Dylid cwyno am ymddygiad gwael a bwlio bob amser, felly gwnewch yn siŵr fod eich dysgwyr yn gwybod y bydd cefnogaeth iddynt os ydynt yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau maen nhw'n eu gweld neu sy'n effeithio arnyn nhw.

Defnyddiwch ein deunydd lawrlwytho i helpu i hyrwyddo y Cod Teithio yn eich ysgol.

Gwnewch bob taith yn un dda.
Dilynwch y Cod Teithio.

Boy in green