Rhieni
Cyflwynwyd y Cod Teithio ym mis Ionawr 2010 i helpu i wella diogelwch plant a phobl ifanc wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen rhwng y cartref a'r ysgol neu'r coleg. Mae ymddygiad gwael wedi cyfrannu at ambell drychineb yn y gorffennol a bwriad y Cod Teithio yw mynd i'r afael â hyn.
Mae'r Cod Teithio yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 5-19 oed, os ydyn nhw'n cerdded, mynd ar fws neu drên, beic neu hyd yn oed yn teithio yn y car.
Fel rhiant neu warcheidwad eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod eich plentyn (neu blant) yn dilyn y Cod Teithio. Os nad yw'ch plentyn yn dilyn y Cod Teithio gall yr Awdurdod Lleol wrthod yr hawl i gael cludiant am ddim. (Edrychwch ar Ganllawiau Statudol y Cod Ymddygiad wrth Deithio am wybodaeth fanwl).
Bydd sicrhau fod eich plentyn yn deall ac yn dilyn y Cod Teithio nid yn unig yn helpu i achub bywydau, ond bydd hefyd yn gwneud palmentydd, bysus a strydoedd yn fannau hapusach i bawb.
Gallwch chwarae rhan wirioneddol bwysig wrth helpu eich plentyn i ddysgu am y Cod Teithio a deall beth mae'n olygu iddyn nhw. Wnewch chi annog eich plentyn i ddarganfod mwy am y Cod Teithio drwy edrych ar y wefan a chymryd rhan yn y gweithgareddau.
Mae'r Cod Teithio'n cynnwys cwis rhyngweithiol gwych y gallwch ei chwarae trwy fynd ar y wefan neu Facebook.
Ceisiwch annog eich disgyblion i chwarae. Mae'n hwyl ac am ddim, a bydd yn eu helpu i ddysgu a deall y Cod Teithio.
Gallwch lawr lwytho'r Cod Teithio yma.
Gwnewch bob taith yn un dda.
Dilynwch y Cod Teithio.

